Dyfodol AGA yng Nghymru
Yn ei adroddiad ym mis Mawrth 2015 Addysgu Athrawon Yfory, gwnaeth yr Athro John Furlong gyfres o argymhellion i Lywodraeth Cymru ynghylch dyfodol addysg gychwynnol athrawon (AGA) yng Nghymru. O dan Orchymyn Cyngor y Gweithlu Addysg (Achrediad Hyfforddiant Cychwynnol Athrawon) Swyddogaethau Ychwanegol 2017, mae gan CGA gyfrifoldeb statudol i:
- achrediad rhaglenni Addysg Gychwynnol Athrawon (AGA)
- monitro cydymffurfiaeth rhaglenni achrededig yn erbyn meini prawf Llywodraeth Cymru
- tynnu rhaglenni achrediad yn ôl
Yn ogystal ag adroddiad yr Athro Furlong, mae amrywiaeth eang o ymchwil ac adroddiadau wedi helpu i lunio gweledigaeth AGA Cymru yn y dyfodol:
- Adolygiad o Addysg Gychwynnol Athrawon yng Nghymru – Yr Athro Ralph Tabberer, Gorffennaf 2013
- BERA-RSA. 2014. The role of research in teacher education: reviewing the evidence - British Educational Research Association (Saesneg yn unig)
- Dyfodol Llwyddiannus - Yr Athro Graham Donaldson, Chwefror 2015
- Cymwys am Oes: Cwricwlwm i Gymru – cwricwlwm am oes - Llywodraeth Cymru, Hydref 2015
Mae dyrannu cyfrifoldeb arnym i achredu rhaglenni AGA unigol yn galluogi ystyriaeth fwy penodol o sut y bydd y rhaglenni yn codi ansawdd y ddarpariaeth ac yn denu pobl iawn sydd â'r sgiliau, cymwysterau a'r gallu i addysgu yn iawn i fynd i'r proffesiwn. Bydd rôl Estyn mewn perthynas ag arolygu AGA yn parhau gyda rhai addasiadau i'r gweithdrefnau cyfredol. Bydd yr holl bartneriaethau AGA yn destun i arolygiad llawn gan Estyn yn ystod y cylch achredu yn ogystal ag ymweliad monitro blynyddol gan y Bwrdd.
Cynhadledd UCET 2019 - Addysg Athrawon yng Nghymru: Taith Ddiwygio
Yn Tachwedd 2019, cyflwynodd yr Athro John Furlong, ynghyd â Dr Hazel Hagger, (CGA), Elaine Sharpling (PCDDS), Rhonwen Morris (Ysgol y Preseli) a Leanne Prevell (Ysgol Gynradd Gelliswick) gyflwyniad ynglŷn â’r daith diwygio addysg athrawon yng Nghymru yn nghynhadledd eleni UCET.
Ymchwil Ychwanegol
Yr Athro John Furlong - Making Change Happen: The Reform of Initial Teacher Education in Wales
Adroddiad Prifysgol Sheffield Hallam (Saesneg yn unig) - Cysylltu ymchwil ac addysg athrawon - Gwella ansawdd ar gyfer Partneriaethau Addysg Gychwynnol Athrawon