ITE

Os ydych chi'n ystyried gyrfa mewn addysgu yng Nghymru, o fis Medi 2019 bydd angen i chi gael statws addysgu cymwysedig (SAC) trwy astudio ar raglen AGA, wedi'i achredu gan Gyngor y Gweithlu Addysg (CGA), trwy ei Fwrdd Achredu AGA.

Mae rhaglenni Addysg Gychwynnol Athrawon (AGA) yn darparu addysg a datblygiad proffesiynol athrawon dan hyfforddiant, yn eu paratoi ar gyfer gwaith mewn ysgolion yng Nghymru ac yn gosod sylfaen ar gyfer dysgu proffesiynol yn yr hirdymor. Mae'r rhaglenni hyn yn seiliedig ar ddysgu sydd yn gwbl ymarferol ac yn ddeallusol heriol ar yr un pryd ac yn ceisio sicrhau bod athrawon wedi eu hymrwymo i ragoriaeth, proffesiynoldeb ac addysgu o ansawdd uchel.

Cynradd – Israddedig

Enw'r bartneriaeth Teitl y rhaglen Dyddiad dod i ben yr achrediad
CaBan BA Cynradd Awst 2021
Partneriaeth Caerdydd BA (Anrh) Addysg Gynradd gyda SAC Awst 2024
Yr Athrofa: Partneriaeth Dysgu Proffesiynol BA (Anrh) Addysg Gynradd gyda SAC Awst 2024

Cynradd - Ôlraddedig

Enw'r bartneriaeth Teitl y rhaglen Dyddiad dod i ben yr achrediad
Partneriaeth AGA Aberystwyth TAR Awst 2024
CaBan TAR Cynradd Awst 2021
Partneriaeth Caerdydd TAR: Cynradd Awst 2024
Yr Athrofa: Partneriaeth Dysgu Proffesiynol TAR gyda SAC Awst 2024

Uwchradd - Ôlraddedig

Enw'r bartneriaeth Teitl y rhaglen Dyddiad dod i ben yr achrediad
Partneriaeth AGA Aberystwyth TAR Awst 2024
CaBan TAR Uwchradd Awst 2021
Partneriaeth Caerdydd TAR: Uwchradd Awst 2024
Yr Athrofa: Partneriaeth Dysgu Proffesiynol TAR gyda SAC Awst 2024


Mae achrediad pob rhaglen a restrir uchod yn ddarostyngedig i amodau.

Cwcis

Mae gwefan CGA yn defnyddio cwcis. Drwy barhau i bori ein gwefan, rydych yn cytuno i’n defnydd o gwcis. Am fwy o fanylion am gwcis a sut i’w rheoli, yna darllenwch ein polisi preifatrwydd.