Hayden Llewellyn, Prif Weithredwr Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA), sy’n esbonio pam y dylem ddweud ein dweud ar y Cod Ymddygiad ac Ymarfer Proffesiynol ar gyfer ymarferwyr addysg
Mae pob un ohonom yn ymddiried yn y system addysg yng Nghymru a’r sawl sy’n gweithio ynddi ar ryw adeg o’n bywydau. Mae pob un ohonom wedi gwneud hyn fel dysgwyr, ond gallai fod fel rhiant, gwarcheidwad neu ofalwr hefyd.
Felly, mae’n rhesymol ein bod ni eisiau gwybod rhywfaint am y bobl sy’n gweithio yn ein hysgolion, colegau a lleoliadau addysg eraill. A oes ganddyn nhw’r cymwysterau angenrheidiol; a yw eu hymddygiad a’u perfformiad yn ddigon da?
Yng Nghymru, rhaid i unrhyw un sy’n gweithio fel athro, neu mewn rôl cymorth dysgu mewn ysgol a gynhelir neu goleg addysg bellach, gofrestru â Chyngor y Gweithlu Addysg (CGA). Mae’r un peth yn wir am ymarferwyr dysgu yn y gwaith a gweithwyr ieuenctid a chymorth ieuenctid cymwys. Yn wir, Cofrestr Ymarferwyr Addysg yng Nghymru CGA yw’r Gofrestr gyhoeddus fwyaf mewn unrhyw broffesiwn yng Nghymru, a’r ehangaf o’i math yn y byd.
Un o’r gofynion ar ein 80,000+ o gofrestrwyr yw bod rhaid iddynt gydymffurfio â’r Cod Ymddygiad ac Ymarfer Proffesiynol . Mae’r Cod yn esbonio’r safonau a ddisgwylir ohonynt, a’r bwriad yw helpu ac arwain eu hymddygiad a’u penderfyniadau, yn y gwaith a thu hwnt iddo. Fodd bynnag, mae gan y Cod rôl bwysig ar gyfer dysgwyr a’r cyhoedd hefyd, gan ei fod yn amlinellu’r hyn y gallant ei ddisgwyl gan unrhyw un sy’n gweithio mewn swydd addysgu a dysgu yng Nghymru.
Mae codau ymarfer ac ymddygiad yn gyffredin mewn proffesiynau eraill. Mae meddygon, nyrsys, deintyddion, ffisiotherapyddion, cyfreithwyr, gweithwyr cymdeithasol a llawer mwy yn eu dilyn. Os nad ydych chi wedi edrych arnyn nhw erioed, mi ddylech chi. Ewch ar y we i gael cip. Efallai y bydd yn gwneud i chi feddwl y tro nesaf yr ewch chi i weld eich meddyg teulu neu ddefnyddio cyfreithiwr i’ch helpu i werthu eich tŷ.
Gall unrhyw gofrestrydd sy’n methu cydymffurfio â’r Cod gael ei ymchwilio gan CGA, gan fod gennym bwerau cyfreithiol i ymchwilio a gwrando ar achosion o honiadau o ymddygiad proffesiynol annerbyniol, anfedrusrwydd proffesiynol difrifol a throseddau yn ymwneud â’r sawl sy’n gofrestredig. Mae nifer yr achosion yr ydym yn ymdrin â nhw yn fychan, ond efallai eich bod chi wedi darllen penawdau yn y wasg am ein gwaith, fel “Prifathro’n dwyn miloedd o bunnoedd o ysgol”, “Athro’n newid marciau disgyblion” a “Darlithydd Addysg Bellach wedi taro myfyriwr”.
Er na all unrhyw god na set o ganllawiau fyth gwmpasu pob sefyllfa na chael eu defnyddio yn lle craffter a barn broffesiynol, maen nhw’n sicr yn helpu. Dan ddeddfwriaeth Cynulliad Cymru, rhaid i CGA adolygu ei God pob tair blynedd. Rydym wedi agor ymgynghoriad cyhoeddus i’n helpu i adolygu a diweddaru’r Cod presennol. Bydd ar agor nes 14 Rhagfyr.
Os ydych yn ddysgwr, rhiant, gwarcheidwad, gofalwr neu aelod o’r cyhoedd sydd â diddordeb, rydym yn awyddus iawn i glywed eich barn ynghylch beth y dylid ei gynnwys yn y Cod. Mae gennym gynlluniau eisoes i gynnwys ein cofrestryddion wrth ddiweddaru’r Cod a sicrhau ei fod yn adlewyrchu’r hyn maen nhw’n ei wneud, a sut. Gallwch ymateb ar ein gwefan: www.ewc.wales lle gallwch weld rhagor o wybodaeth. Hoffwn glywed gan gymaint o bobl â phosibl.