pencil graph

Ysgol Glan Gele Adroddiad Ymchwil 1 2017

Ysgol Glan Gele Adroddiad Ymchwil 1 2017

Ysgol Glan Gele: Mae'r ymchwil hwn a wneir gan staff yn Ysgol Glan Gele yn archwilio effaith adborth penodol, unigol ar ddysgwyr mwy cyndyn ym mlwyddyn 2 rhwng 6 a 7 oed.

Yn dilyn cyhoeddi Adroddiad Furlong ‘Addysgu Athrawon Yfory’ (2015) ac Adroddiad Donaldson ‘Dyfodol Llwyddiannus’ (2015), roedd staff Ysgol Glan Gele yn awyddus i ail-afael mewn ymchwil weithredu oedd wedi bod yn un o nodweddion allweddol yr ysgol yn ystod cyfnod bwrsarïau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru. Yn ystod y cyfnod hwn (2001-10), roeddem wedi ymchwilio’n llwyddiannus i amrywiaeth o agweddau ar addysgeg ac arloesi cwricwlaidd, ac roedd y staff wedi ymwneud llawer ag ymchwil ac wedi datblygu sgiliau gwerthfawr. Teimlai’r uwch arweinwyr bod yr ysgol wedi mynd yn ‘brin o ymchwil’ ac nad oedd gan aelodau iau o’r staff lawer o ddealltwriaeth o ‘ymarferoli gwybodaeth’ na phrofiad o ymchwil weithredu berthnasol. Penderfynasom y byddai ymarfer y mae tystiolaeth wedi’i lywio yn un o’r nodweddion â blaenoriaeth yn ein Datblygu Proffesiynol Parhaus er mwyn sicrhau bod gennym ‘athrawon o ansawdd uchel sydd â dealltwriaeth drylwyr o ddulliau addysgu a’r rhesymau drostynt yn ogystal â chynnwys yr addysgu.’ (Donaldson 2015: 58). Yn ffodus, penderfynodd ein consortiwm GWE (roedd y rhaglen o dan arweiniad Eithne Hughes) gomisiynu CUREE (Centre for the Use of Research and Evidence in Education) i weithio gydag ysgolion ledled gogledd Cymru er mwyn uwch-sgilio staff mewn sgiliau a phrotocolau ymchwil gwerthfawr. Yn ystod 2016-17, lansiodd a chynorthwyodd CUREE raglen oedd â’r nod o feithrin gallu hunangynhaliol ar gyfer gwaith gwella ysgol y mae ymchwil a thystiolaeth yn ei lywio ymysg cohort o 30 o Arweinwyr a Chynghorwyr Herio. Ysgol Glan Gele oedd un o’r ysgolion hyn. Cymerodd pob aelod o’r staff ran ond dynodwyd ein dirprwy Bennaeth Laura Martin yn Hyrwyddwr yn yr Ysgol. Mae Ysgol Glan Gele hefyd yn un o Ysgolion Arloesi Llywodraeth Cymru.

Cyd-destun

Mae Ysgol Glan Gele yn ysgol fabanod yn Abergele, o dan awdurdod lleol Conwy. Mae 295 o ddisgyblion rhwng 3 a 7 oed ar y gofrestr, wedi’u trefnu’n 11 dosbarth a dosbarth meithrin. Mae oddeutu 28% o’r disgyblion yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim, sy’n uwch na chyfartaledd Cymru. Mae’r ysgol wedi nodi bod gan oddeutu 30% o’i disgyblion anghenion dysgu ychwanegol. Nifer fach iawn o’r disgyblion sy’n defnyddio Saesneg fel iaith ychwanegol a daw bron pob un ohonynt o gartrefi Saesneg eu hiaith. Oherwydd natur yr ardal, mae gan yr ysgol boblogaeth amharhaol.
Cefndir

At ddibenion ein hymholiad, penderfynasom ymchwilio i effaith adborth penodol, unigol ar ddysgwyr mwy amharod yng Nghyfnod Sylfaen 2 (Blwyddyn 2) sy’n 6 a 7 oed. Un o flaenoriaethau Cynllun Datblygu’r Ysgol ar gyfer 2016-17 oedd datblygu Meddylfryd Twf ymysg poblogaeth yr ysgol. Fel ysgol, roeddem wedi edrych ar wahanol strategaethau a dogfennau ymchwil er mwyn datblygu a gwella’r Meddylfryd Twf a lles ein disgyblion. Roedd yr ymchwiliad hwn yn cysylltu’n dda â’r flaenoriaeth hon, ac fel ysgol Cyfnod Sylfaen, mae gwydnwch yn rhywbeth yr ydym bob amser yn ceisio’i wella a’i ddatblygu. Roedd ein hymchwil yn canolbwyntio ar sampl fach o ddisgyblion CS2 oedd â gallu gwybyddol cyfartalog ond oedd wedi’u nodi gan yr athrawes ddosbarth fel rhai ‘sy’n gwneud dim ond yr hyn mae ei angen ac nad ydynt byth yn gwneud cymaint o ymdrech ag y byddwn yn ei hoffi.’

Man cychwyn

Fel y nodwyd eisoes, roedd Meddylfryd Twf yn flaenoriaeth i’r ysgol yn ystod 2016-17 a châi ei arwain gan dri aelod o’r staff addysgu, er ei bod yn fenter ysgol gyfan. Felly roedd y plant a ddewiswyd yn cymryd rhan mewn amrywiaeth o wersi a gweithgareddau Meddylfryd Twf o fis Medi 2016 ymlaen. Fel staff, roeddem wedi dechrau gweld newid yn yr agweddau at ddysgu a dulliau gwaith.

Yn dilyn arsylwadau gan gynorthwywyr dysgu a’r athrawes ddosbarth, teimlwyd nad oedd y grŵp penodol hwn o ddisgyblion yn cyflawni eu potensial ar draws y cwricwlwm. Cymerodd y staff ran mewn deialog proffesiynol er mwyn canfod pam yr oedd hyn yn wir a beth allem ei wneud yn ei gylch. Roedd gan bob un o’r disgyblion yn y grŵp targededig allu cyfartalog neu uwch na’r cyfartaledd; roedd gan bob un ohonynt y potensial i orffen y flwyddyn gyda Deilliant 5 neu 6 mewn Iaith, Llythrennedd a Chyfathrebu, Datblygiad Mathemategol a Datblygiad Personol a Chymdeithasol. Roeddent yn cael gwahanol lefelau o gymorth yn y cartref o ran eu gwaith ysgol.

I gychwyn, treuliodd yr athrawes ddosbarth amser gyda’r cynorthwywyr dysgu yn trafod sut yr oeddent yn rhyngweithio gyda’r disgyblion hyn ac yn rhoi adborth iddynt, a pha effaith yr oedd eu hadborth yn ei chael ar safonau. At hynny, cyflawnodd yr athrawes ddosbarth, sydd hefyd yn Ddirprwy Bennaeth yr ysgol, arsylwadau Mathemateg ledled yr ysgol, fel rhan o’i chyfrifoldebau o ran y cwricwlwm. Yn ystod yr arsylwadau hyn roedd ganddi ail ffocws, ac roedd hefyd yn treulio amser yn cofnodi’r ganmoliaeth a’r adborth a roddwyd i’r disgyblion gan y staff ledled yr ysgol. Pa mor bersonol oedd hyn? Sut yr oedd y ganmoliaeth yn symud y dysgu ymlaen? Nid oedd y staff yn ymwybodol o ail ffocws yr arsylwi ar y pryd. Darparodd hyn linell sylfaen werthfawr.

Roedd yr arsylwadau’n dangos yn glir bod mwyafrif y staff, at ei gilydd, yn rhoi adborth lefel isel i’r disgyblion e.e. “da iawn”, “ffantastig”, “dyna ferch dda” ac ati. Nid oeddent yn canolbwyntio’n arbennig ar ganmoliaeth benodol er mwyn symud y dysgu ymlaen yn ystod y wers. Cafwyd hefyd rai enghreifftiau da iawn o adborth o ansawdd da, ond lleiafrif oedd y rhain. Wedyn cawsom gyfarfod staff ysgol gyfan i drafod gwerthusiad o’r arsylwadau hyn. Yn dilyn trafodaethau â’r staff roedd yn glir eu bod i gyd yn teimlo bod yr adborth a’r ganmoliaeth yr oeddent yn eu rhoi i’r disgyblion yn canolbwyntio’n fwy ar yr unigolyn, ac yn fwy unigol nag yr oeddent mewn gwirionedd! Roedd llawer o’r staff yn synnu’n fawr at y canfyddiadau, a chytunodd pawb i wella a chodi ansawdd ein hadborth er mwyn gwella lles, symbyliad a deilliannau’r disgyblion.

Hefyd anfonasom holiaduron adref at rieni’r plant yn y grŵp targededig, er mwyn darganfod beth, yn eu tyb hwy, oedd yn symbylu eu plant.

Fel man cychwyn, gwnaethom lungopïau o enghreifftiau o ysgrifennu’r disgyblion targed i’w ddefnyddio fel llinell sylfaen, gyda’r gobaith y byddai cyrhaeddiad yn y maes hwn wedi gwella’n sylweddol ar ôl rhoi adborth ffocysedig ar ansawdd (y tu hwnt i’r gwelliant cyfartalog dros amser, pe bai popeth wedi aros yr un peth). Hyn fyddai ein mesuriad o effaith y prosiect ymchwil hwn.

Ychydig wedi dechrau’r prosiect, treuliodd yr athrawes ddosbarth amser yn hwyluso cyfres o drafodaethau grŵp gyda’r dysgwyr targededig, dros gyfnod o rai wythnosau. O’r rhyngweithiadau hyn, roedd yn amlwg bod y disgyblion yn ymwybodol iawn o’r ffaith nad oeddent bob amser yn rhoi digon o ymdrech i’w gwaith a theimlai’r mwyafrif mai gwrthdyniadau gan eu cyd-ddisgyblion oedd ar fai am hyn! Roeddent i gyd yn gwybod sut i oresgyn y gwrthdyniadau hyn, o ganlyniad i’n gwaith ar Feddylfryd Twf, a dywedodd dau o’r dysgwyr eu bod wedi dechrau symud eu hunain i ffwrdd o wrthdyniadau yn ystod yr wythnosau diwethaf. Yn ystod trafodaeth ar yr adborth a’r ganmoliaeth maent yn eu cael gan oedolion, dywedodd pob un yn glir y byddai’n well ganddynt o lawer cael adborth oedd yn dweud wrthynt yn benodol iawn beth yr oeddent wedi’i wneud yn dda ac roedd pob un yn awyddus i gael awgrymiadau ar sut i wella. Roedd pawb o blaid gwobrwyon ac roedd y dysgwyr yn teimlo bod gwobr ar unwaith am eu hymdrechion yn beth cadarnhaol ac y byddai’n gwneud iddynt deimlo’n dda am eu gwaith a’u hymdrechion.

Y prosesau dysgu ac addysgu

Yn dilyn y trafodaethau cychwynnol, yr arsylwadau ac adborth gan rieni, treuliodd yr athrawes ddosbarth amser yn ymchwilio i adborth a chanmoliaeth effeithiol, a daeth o hyd i lawer o erthyglau diddorol. O’r rhain, roedd yn gallu canolbwyntio ei meddyliau llawer mwy ar y term ‘anogaeth’ a phwysigrwydd adborth penodol. Penderfynodd gynhyrchu promtiau gweledol i’r holl staff yn ei dosbarth eu defnyddio fel dull atgoffa pan oedd y staff yn gweithio gydag unigolion. Cynhyrchodd ddau boster, y naill am bwysigrwydd anogaeth a’r llall dan y teitl ‘Hanfodion Rhoi Adborth’.

Yn ystod tri mis olaf tymor yr haf, treuliodd yr athrawes fwy o amser gyda’r unigolion a ddewiswyd, gan sicrhau eu bod bellach yn gallu adnabod yr agweddau ar eu gwaith neu ymdrech yr oedd hi’n hapus â hwy, ynghyd â’r rhesymau pam a sut y gellid gwella eu gwaith ymhellach. Roedd hwn yn bendant yn ddull cydweithredol o weithio, gyda phwyslais ar farn y dysgwr. At hynny, sicrhaodd yr athrawes ddosbarth a’r cynorthwywyr dysgu eu bod yn treulio amser yn canmol ymdrechion y disgyblion yn ystod gwersi a gweithgareddau, ac yn mynd ati’n fwriadus i’w gwobrwyo’n fwy unionsyth.

Effaith

Mae’r dysgwyr targededig i gyd wedi dangos agwedd well tuag at ddysgu (y merched yn enwedig) ac maent i gyd yn treulio mwy o amser yn cwblhau tasgau. Mae ansawdd eu gwaith ysgrifenedig wedi gwella. Maent i gyd wedi cyflawni deilliannau cyfartalog neu uwch na’r cyfartaledd ar ddiwedd y cyfnod asesu ym mis Mehefin. Roedd yr holl ddysgwyr yn fwy ymwybodol o’r hyn yr oeddent wedi’i wneud yn dda ac yn gallu esbonio’r rhannau o’u gwaith yr oedd angen eu gwella. Roedd yr holl staff yn y dosbarth wedi sylwi ar newid yn agweddau’r grŵp hwn, a’u lefelau symbyliad. Roedd yr ymdrech yr oeddent yn ei rhoi i’w gwaith wedi cynyddu ac roedd yn amlwg eu bod i gyd yn hapus i gael gwobrwyon mwy unionsyth. Roedd lles wedi gwella. Cafodd hyn effaith gadarnhaol hefyd ar weddill y dosbarth, a gafodd fudd o adborth gwell ac anogaeth fwy penodol. Roedd y posteri yr oedd yr athrawes ddosbarth wedi’u cynhyrchu o fudd yn nhermau atgoffa’r staff i fod yn fwy penodol a ffocysedig er mwyn sicrhau gwell deilliannau. Bellach mae adborth gan y staff yn offeryn mwy ffocysedig i ddatblygu ein dysgwyr. O drafodaethau gyda’r dysgwyr, mae’n amlwg eu bod yn teimlo y cânt eu gwerthfawrogi mwy a’u bod yn fwy hyderus o ran deall sut y gallant wella eu gwaith. Roeddent yn hoffi’r ffaith y gwyddant beth maent yn ei wneud yn dda, ac maent yn dod yn effeithiol iawn o ran gwybod sut i wella agweddau ar eu gwaith eu hunain.

Tystiolaeth

Yn gyntaf, casglasom dystiolaeth o waith a gynhyrchwyd heb bwysleisio adborth. Wedyn defnyddiasom ddarnau o waith diweddarach i fesur effaith. Hefyd, creasom holiaduron i rieni a threuliasom amser gyda’r plant i ganfod eu barn a’u syniadau am yr adborth maent yn ei gael, a’r ymdrech maent yn ei rhoi i’w gwaith.

Darllen Pellach

Addysgu Athrawon Yfory – Adroddiad Furlong John Furlong – Rhydychen, Mawrth 2015
http://gov.wales/docs/dcells/publications/150309-teaching-tomorrows-teachers-cy.pdf

Dyfodol Llwyddiannus - Graham Donaldson Chwefror 2015 http://cymraeg.gov.wales/btc/memoriesindex/DyfodolLlwyddiannus?lang=cy

Encouragement is more effective than praise – Childcare, 8 Medi 2015 http://articles.extension.org/pages/25701/encouragement-is-more-effective-than-praise-in-guiding-childrens-behavior

Effective Praise – Leah Davies M.Ed www.kellybear.com

Examples of Constructive Praise and Encouraging Comments – Daniel T. Willingham www.parentingscience.com

The effects of praise: What scientific studies revealwww.parentingscience.com

Understood – The Power of Praise – Amanda Morin (At a glance) www.understood.org/en/friends-feelings/empowering-your-child/celebrating-successes/ways-praise-can-empower-kids-learning-issues

Encouraging and praising childrenwww.kidsmatter.edu.au

Adroddiad CUREE (http://learning.gov.wales/docs/learningwales/publications/140416-coaching-and-mentoring-leaflet-cy.pdf)

Cynnydd yn y Dyfodol

Bydd gwella ansawdd adborth yn un o’r blaenoriaethau ysgol gyfan yn 2017-18. Byddwn yn dosbarthu canfyddiadau ein micro-ymchwil i’r holl staff yn ystod mis cyntaf y tymor newydd. Caiff y posteri a gynhyrchwyd fel rhan o’r prosiect eu defnyddio ym mhob dosbarth i atgoffa’r staff sut i sicrhau bod eu hadborth yn ffocysedig ac o ansawdd da bob amser er mwyn sicrhau y bydd yn effeithio ar gynnydd y disgyblion. Mae’r hyrwyddwr yn yr ysgol wedi creu holiadur i’r staff i ganfod eu barn ar eu defnydd o adborth gyda’u dysgwyr. Caiff arsylwadau gan gymheiriaid eu defnyddio ledled yr ysgol er mwyn sicrhau ein bod yn dysgu oddi wrth ein gilydd. Caiff hyn ei ddefnyddio i ddatblygu hyfforddiant a hyfforddi ledled yr ysgol. Bydd yr ysgol hefyd yn ymwneud ag un o dimau ymchwil Shirley Clarke yn 2018 o dan y consortiwm lleol GWE.

Cyswllt

Julia Buckley Jones Pennaeth Ysgol Glan Gele. Gwnaethpwyd yr astudiaeth hon yn Ysgol Glan Gele dan arweiniad y Dirprwy Bennaeth, Laura Martin. Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu sylwadau, anfonwch neges e-bost at Julia Buckley Jones Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld..