Yng Nghyngor y Gweithlu Addysg, rydym yn parchu preifatrwydd ein cofrestrai, ein rhanddeiliaid ac ymwelwyr â'n gwefan
Eich preifatrwydd
Rydym yn cymryd ein dyletswydd i brosesu eich data personol o ddifrif. Mae'r polisi hwn yn egluro sut rydym yn casglu, yn rheoli, yn defnyddio ac yn diogelu eich data personol. Gallwn newid y polisi hwn o bryd i'w gilydd er mwyn adlewyrchu arfer gorau. Edrychwch yn ôl ar y polisi'n rheolaidd.
Eich gwybodaeth
Os ydym yn dal gwybodaeth amdanoch, rydym yn eich sicrhau ein bod yn prosesu'r wybodaeth honno mewn ffordd deg, gyfreithlon a diogel. CGA yw 'rheolydd' y data personol a ddarperir i ni.
Mae'r hysbysiad preifatrwydd hwn yn nodi'r hyn y gallwch ei ddisgwyl pan fydd CGA yn casglu gwybodaeth bersonol. Mae'n gymwys i'r wybodaeth rydym yn ei chasglu am:
Ymwelwyr â'n gwefan
Pan fyddwch yn ymweld â'n gwefan, rydym yn defnyddio Google Analytics i gasglu gwybodaeth log safonol a manylion am ymwelwyr a phatrymau ymddygiad. Caiff y wybodaeth ei phroses mewn ffordd nad yw'n nodi pwy yw unigolion. Mae'r wybodaeth a gesglir drwy weinyddion ein gwefannau yn ein helpu i wella cynnwys, dyluniad a pherfformiad y wefan berthnasol.
Os ydym yn awyddus i gasglu gwybodaeth y gellir ei defnyddio i adnabod unigolion drwy ein gwefan, byddwn yn datgan hynny'n glir. Pan fyddwn yn casglu gwybodaeth bersonol, byddwn yn datgan hynny'n glir ac yn egluro'r hyn rydym yn bwriadu ei wneud â'r wybodaeth honno. Mae CGA yn sicrhau bod y llwyfan y mae'r wefan yn cael ei chynnal arno yn defnyddio'r feddalwedd ddiweddaraf a diweddariadau diogelwch. Caiff mynediad HTTPS ei alluogi er mwyn sicrhau amgryptio pen-i-ben ac mae cwmni allanol yn sganio ein gweinyddion yn rheolaidd er mwyn sicrhau nad ydynt yn agored i unrhyw ymosodiad maleisus.
Defnyddio cwcis
I gael rhagor o fanylion am gwcis a sut rydym yn eu rheoli, darllenwch ein polisi cwcis yn https://www.ewc.wales/site/index.php/en/cookies.html
E-gylchlythyr a Digwyddiadau
Rydym yn casglu eich gwybodaeth er mwyn i ni allu darparu gwasanaeth i chi a’ch hysbysu am unrhyw ddigwyddiad sydd ar y gweill.
Rydym yn defnyddio darparwyr trydydd parti YMLP a Mailchimp i anfon ein e-gylchlythyrau. I gael rhagor o wybodaeth, darllenwch eu polisïau preifatrwydd https://www.ymlp.com/privacy_policy.html a https://mailchimp.com/legal/privacy/
Digwyddiadau Cyngor y Gweithlu Addysg
Rydym yn defnyddio Tocyn a zoom, gwasanaeth gwerthu tocynnau/darlledu ar-lein ar gyfer ein digwyddiadau. Mae eu polisi preifatrwydd ar gael yn https://tocyn.cymru/cy/privacy a https://zoom.us/privacy
Rydym yn defnyddio’ch manylion personol megis eich enw a’ch cyfeiriadau e-bost er mwyn darparu gwasanaeth/rheoli ein digwyddiadau. Bydd ffotograffiaeth/ffilmio mewn digwyddiadau yn cael ei reoli ar sail caniatâd. Rydym yn casglu ystadegau ynghylch cyfraddau agor a chlicio e-byst gan ddefnyddio technolegau diwydiant-safonol i’n cynorthwyo wrth fonitro a gwella ein cylchlythyrau.
Cyswllt drwy'r cyfryngau cymdeithasol
Os byddwch yn anfon neges breifat neu uniongyrchol atom drwy'r cyfryngau cymdeithasol, caiff y neges ei storio am wythnos. Bydd unrhyw ohebiaeth ar ein llwyfannau cyfryngau cymdeithasol e.e. twitter a Facebook yn ddarostyngedig i'n polisi cyfryngau cymdeithasol.
Gohebiaeth e-bost
Mae ein gwaith Priodoldeb i Ymarfer yn defnyddio Intralinks a Criminal Justice Secure Mail. Ar gyfer popeth arall rydym yn defnyddio Egress Switch, sy'n trosglwyddo negeseuon e-bost a dogfennau'n ddiogel i gyfeiriadau e-bost nad ydynt wedi'u diogelu er mwyn sicrhau ein bod yn bodloni gofynion o ran diogelwch a diogelu data. Darllenwch y daflen Cwestiynau Cyffredin am Egress i gael rhagor o wybodaeth.
Rydym hefyd yn monitro pob neges e-bost a anfonir atom, gan gynnwys ffeiliau atodedig, er mwyn canfod firysau neu feddalwedd faleisus. Dylech fod yn ymwybodol bod gennych gyfrifoldeb i sicrhau bod unrhyw e-bost a anfonir gennych yn cydymffurfio â'r gyfraith.
O ble rydym yn cael gwybodaeth amdanoch
Gennych chi yn uniongyrchol
- Cais i gofrestru
- Drwy eich cyswllt â ni fel cofrestrai, gan gynnwys drwy ddefnyddio gwasanaeth "FyCGA"
Gan eraill
- Gan sefydliadau addysg gychwynnol i athrawon os ydych yn dilyn cwrs neu raglen sy'n arwain at ddyfarnu Statws Athro Cymwysedig yng Nghymru.
- Gan gyflogwyr, Asiantaeth Bensiynau, rheoleiddwyr addysgu eraill a chyrff cyhoeddus
Pa wybodaeth sy'n cael ei dal ar y Gofrestr o Ymarferwyr Addysg?
Mae manylion personol a ddelir ar y Gofrestr yn cynnwys enw'r cofrestrai, cyfeiriad cyswllt a manylion am gyflogaeth, cymwysterau a datblygiad proffesiynol. Mae gennym saith categori cofrestru, i gael rhagor o wybodaeth ewch i https://www.ewc.wales/site/index.php/cy/cofrestru/ceisio-am-gofrestru.html Hefyd, mae gan CGA gyfrifoldeb i gofnodi'r sawl sy'n cael Statws Athro Cymwysedig yng Nghymru bob blwyddyn.
Mae gennym gyfrifoldeb cyfreithiol i gadw a chynnal y Gofrestr. I gael rhagor o wybodaeth am yr angen i gofrestru, ewch i https://www.ewc.wales/site/index.php/cy/cofrestru/ceisio-am-gofrestru.html
Mae is-set o ddata o'r Gofrestr (enw cyntaf, cyfenw, cyflogwr, categori cofrestru ac unrhyw orchmynion disgyblu) ar gael yn gyhoeddus. Nid ydym yn gyfrifol am y ffordd y mae'r sawl sy'n cael gafael ar y wybodaeth gyhoeddus hon yn ei defnyddio.
Sail gyfreithlon at ddibenion prosesu
Mae Deddf Addysg (Cymru) 2014 (ac unrhyw ddiwygiadau dilynol) a deddfwriaeth / rheoliadau cysylltiedig, yn nodi ein swyddogaethau a'r wybodaeth y gallwn ei dal. Rydym yn prosesu eich gwybodaeth bersonol fel y gallwn ddarparu gwasanaethau i chi, cyflawni swyddogaethau cyhoeddus (tasg gyhoeddus), a chydymffurfio â chyfreithiau a rheoliadau cymwys (rhwymedigaeth gyfreithlon)
Mewn rhai achosion, rydym yn prosesu eich gwybodaeth bersonol ar sail budd dilys, sy'n golygu bod gennym reswm dilys a theg ac nad ydym yn amharu ar eich hawliau na'ch buddiannau. Gall enghreifftiau o'r dull gweithredu hwn gynnwys defnyddio adnoddau dadansoddi data ar ein gwefan Ar gyfer rhai o'n gweithgareddau, fel swyddogaethau adnoddau dynol, rydym yn dibynnu ar gontract fel sail gyfreithlon.
Y brif sail gyfreithiol y dibynnwn arni i brosesu data personol yw erthygl 6(1)(e) o'r GDPR, sy'n ein galluogi i brosesu data personol pan fo hynny'n angenrheidiol i gyflawni ein tasgau cyhoeddus fel rheoleiddiwr.
Os yw'r wybodaeth a ddarperir gennych yn cynnwys data categori arbennig, fel gwybodaeth iechyd, crefyddol, ethnig neu wybodaeth sy'n gysylltiedig â'n gwaith priodoldeb i ymarfer, y sail gyfreithiol yr ydym yn dibynnu arni i'w phrosesu yw erthygl 9(2)(g) o'r GDPR, sydd hefyd yn ymwneud â'n dasg gyhoeddus a diogelu eich hawliau sylfaenol. Ac Atodlen 1 rhan 2 (6) o'r DPA2018 sy'n ymwneud ag amcanion statudol a dibenion y Llywodraeth ac Atodlen 8 Rhan 1 a 6 sy'n ymwneud ag amodau ar gyfer prosesu sensitif. Ein diben yw ymchwilio a chymryd camau rheoleiddio yn unol â'n dyletswyddau statudol. Prosesu data personol sy'n ymwneud â gorfodi'r gyfraith-GDPR a rhan 2, Pennod 2 DPA 2018.
Y sail gyfreithiol yr ydym yn dibynnu arni ar gyfer prosesu pethau fel data personol sy'n gysylltiedig ag adnoddau dynol yw erthygl 6(1)(b) o'r GDPR, sy'n ymwneud â phrosesu sy'n angenrheidiol i gyflawni contract neu i gymryd camau ar eich cais, cyn ymuno â chontract. Y sail gyfreithiol Rydym yn dibynnu arni i brosesu unrhyw wybodaeth a ddarperir fel rhan o gais am gyflogaeth sy'n ddata categori arbennig, fel gwybodaeth iechyd, crefyddol neu ethnig yw erthygl 9(2)(b) o'r GDPR, sydd hefyd yn ymwneud â'n rhwymedigaethau mewn cyflogaeth a diogelu hawliau sylfaenol ac Erthygl 9(2)(h) ar gyfer asesu'r gallu i weithio fel cyflogai. Ac Atodlen 1 rhan 1 (1) a (2)(a) a (b) o'r DPA2018 sy'n ymwneud â phrosesu ar gyfer cyflogaeth, asesu eich gallu i weithio a meddygaeth ataliol neu alwedigaethol.
Y ffordd rydym yn defnyddio'r wybodaeth a ddelir ar y Gofrestr
Mae'r wybodaeth a ddelir gennym ar y Gofrestr wedi'i nodi mewn deddfwriaeth ac mae'n ein galluogi i gyflawni ein swyddogaeth reoleiddio.
Ar ran Llywodraeth Cymru, rydym yn gweinyddu cyllid ar gyfer sefydlu ac yn prosesu gwybodaeth a roddir ar Ffurflenni Hysbysu Sefydlu, Ffurflenni Hawlio Cyllid Sefydlu a Ffurflenni Hysbysu Sefydlu fel Athro Cyflenwi Byrdymor er mwyn cyflawni'r swyddogaeth hon. Caiff y wybodaeth a roddir ar y ffurflenni hyn ei rhannu a’i ddefnyddio gan drydydd partïon sy'n gysylltiedig â'r cyfnod Sefydlu h.y. y corff priodol ar gyfer y cyfnod sefydlu, sef awdurdodau lleol a chonsortia, y gwiriwr allanol a'r mentor sefydlu. Bydd y wybodaeth hon ond yn cael ei ddefnyddio gan y trydydd partïon hyn at ddibenion Sefydlu.
Rydym yn defnyddio Pebblepad i ddarparu'r proffil sefydlu ar-lein a'r Pasbort Dysgu Proffesiynol. I gael rhagor o wybodaeth, darllenwch bolisi preifatrwydd Pebblepad https://www.pebblepad.co.uk/l/privacy.aspx
Rydym yn llunio adroddiadau ystadegol ac adroddiadau ymchwil yn rheolaidd, sy'n crynhoi'r wybodaeth bwysig a geir ar y Gofrestr. Rydym yn defnyddio'r wybodaeth hon er mwyn helpu i gynllunio'r gweithlu a datblygu polisïau. Weithiau, rydym yn defnyddio'r wybodaeth i roi'r newyddion diweddaraf i chi am faterion proffesiynol.
Os byddwch yn dewis datblygu eich proffesiwn rywle arall, efallai y bydd rheoleiddiwr proffesiynol ac awdurdod cymwys arall o'r tu allan i'r Deyrnas Unedig yn cysylltu â ni er mwyn i ni ddilysu'r wybodaeth rydych yn ei rhoi iddynt.
Pryd y byddwn yn datgelu gwybodaeth amdanoch
Dim ond at ddibenion dilys rydym wedi eich hysbysu ohonynt y byddwn yn datgelu eich gwybodaeth i drydydd parti, oni bai bod angen i ni wneud hynny am resymau cyfreithiol eraill.
Ni fyddwn yn trosglwyddo eich gwybodaeth i unrhyw bartïon eraill nac yn ei defnyddio at unrhyw ddiben arall heb eich caniatâd.
Pwy all weld a defnyddio'r Gofrestr?
Gall cofrestreion weld ac agor eu cofnod eu hunain. Mae gwybodaeth gyfyngedig benodol ar gael i gyflogwyr a'r cyhoedd hefyd, sydd wedi'i nodi mewn deddfwriaeth. Cafodd y Gofrestr ei datblygu gan ddarparwr trydydd parti, Miller Technology, a chaiff ei chynnal ganddo hefyd. I gael rhagor o wybodaeth, darllenwch bolisi preifatrwydd MillerTech http://www.millertech.co.uk/privacy-policy
Defnyddir Redstor fel llwyfan rheoli data i storio copi wedi'i amgryptio o'n data. Mae polisi preifatrwydd Redstor ar gael yn https://www.redstor.com/privacypolicy
Sut y gallaf agor/diweddaru fy nghofnod ar y Gofrestr?
Gallwch glicio ar y ddolen FyCGA ar y dudalen hafan neu gallwch gysylltu â ni'n uniongyrchol drwy anfon e-bost i Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld. neu ffonio 029 20460099. Os credwch fod y wybodaeth rydym yn ei phroses amdanoch yn anghywir ar unrhyw adeg, rhowch wybod i ni.
Addasrwydd a Phriodoldeb i Ymarfer
Os byddwch yn destun camau Priodoldeb i Ymarfer, yn y rhan fwyaf o achosion, gall unrhyw aelod o'r cyhoedd neu'r wasg fynd i'r gwrandawiad. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar ein tudalennau Priodoldeb i Ymarfer ( https://www.ewc.wales/site/index.php/cy/priodoldeb-i-ymarfer/beth-yw-priodoldeb-i-ymarfer.html ).
Caiff canlyniadau gwrandawiadau, gan gynnwys yr enw llawn, y cyflogwr a manylion y penderfyniad, eu cyhoeddi ar wefan CGA. Mae gorchmynion disgyblu hefyd ar gael drwy swyddogaeth chwilio'r gofrestr gyhoeddus.
Ymchwil
Fel rhan o'i gylch gwaith, mae CGA yn rhoi cyngor i lunwyr polisi ac eraill ar faterion sy'n ymwneud â'r gweithlu addysg, addysgu a dysgu. Er mwyn cyflawni ein cylch gwaith, mae CGA yn gwneud gwaith ymchwil a gaiff ei gyhoeddi wedyn ar ein gwefan neu'i gyflwyno yn un o'n cyfarfodydd briffio polisi gerbron rhanddeiliaid ac ymarferwyr addysg. Pan fyddwch yn cymryd rhan yn ein gwaith ymchwil sy'n gysylltiedig ag addysg, caiff unrhyw wybodaeth a gesglir ei defnyddio i gynnal dadansoddiad ystadegol o'r data. Lle bo hynny'n briodol, gall CGA gysylltu ymatebion â'r data a ddelir ar y Gofrestr o Ymarferwyr Addysg er mwyn dadansoddi'r data yn ôl nodweddion eraill, fel oedran a rhywedd. Dim ond gwybodaeth gyfanredol a gaiff ei chyhoeddi. Os oes bwriad i rannu'r data â thrydydd parti, ni fydd yn cynnwys enwau a byddwn yn hysbysu cyfranogwyr am hyn ar ddechrau'r ymchwil.
Cofrestreion sy'n gwneud cais am grant o dan y Cynllun Bwrsariaeth Ymchwil
Pan fydd cofrestreion yn gwneud cais am fwrsariaeth ymchwil o dan gynllun CGA, maent yn cyflwyno'u gwybodaeth ar ffurflen gais, yn darparu manylion am eu cynnig ac yn amlinellu cost bosibl y prosiect. Dim ond er mwyn adolygu'r cais am grant a gweinyddu a rheoli unrhyw grantiau a ddyfernir y caiff unrhyw wybodaeth bersonol a ddarperir yn y cais ac yn ystod unrhyw waith ymchwil y dyfarnwyd grant iddo, ei defnyddio. Gallwn hefyd gyhoeddi gwybodaeth am brosiectau ar ein gwefan.
Aelodau'r Cyngor, aelodau'r Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer ac aelodau'r Bwrdd Achredu Addysg Gychwynnol i Athrawon
Mae'r manylion personol a ddelir yn cynnwys enw llawn a manylion cyswllt (cyfeiriad cartref, cyfeiriad e-bost personol a rhif ffôn cyswllt), cofrestr o fuddiannau a thystiolaeth o statws cyflogaeth (at ddibenion ariannol). Caiff manylion cyswllt eu dal er mwyn sicrhau bod aelodau'r Cyngor a'r Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer yn cael manylion cyfarfodydd neu ohebiaeth gymwys ac unrhyw bapurau perthnasol. Cânt eu dal am resymau gweithredol a rhesymau'n ymwneud â pharhad busnes hefyd. Mae llun, cofrestr buddiannau a bywgraffiad byr o bob un o Aelodau'r Cyngor ar gael yn gyhoeddus ar ein gwefan. Bob blwyddyn, mae'n rhaid i'r aelodau gymryd rhan yn y 'Broses Adolygu Aelodau', sy'n cynnwys llenwi ffurflen hunanwerthuso. Caiff y wybodaeth hon i gyd ei hymgorffori mewn adroddiad nad yw'n cynnwys enwau a gaiff ei ysgrifennu gan Gadeirydd y Cyngor a'i anfon i Lywodraeth Cymru. Caiff y gwaith papur ei gadw am bedair blynedd ar ôl i gyfnod gwasanaeth yr aelodau ddod i ben.
Ymgeiswyr am swyddi a chyn-gyflogeion a chyflogeion presennol CGA
CGA yw'r rheolydd data ar gyfer y wybodaeth rydych yn ei darparu yn ystod y broses, oni nodir fel arall. Os oes gennych unrhyw ymholiadau am y broses neu'r ffordd rydym yn trin eich gwybodaeth, cysylltwch â ni yn Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld..
Gwneud cais ac asesu
Bydd ein tîm adnoddau dynol yn defnyddio'r manylion cyswllt a rowch i ni er mwyn cysylltu â chi ynglŷn â cham nesaf eich cais.
Byddwn yn defnyddio'r wybodaeth arall a rowch er mwyn asesu eich addasrwydd i'r rôl rydych wedi gwneud cais amdani. Nid ydym yn casglu mwy o wybodaeth nag sydd ei hangen arnom i gyflawni'r dibenion a nodwyd gennym ac ni fyddwn yn ei chadw am fwy nag sydd ei angen.Nid oes yn rhaid i chi ddarparu'r wybodaeth y gofynnwn amdani ond gallai hynny effeithio ar eich cais.Bydd ein tîm adnoddau dynol yn gallu gweld y wybodaeth hon i gyd. Bydd rheolwyr recriwtio yn cael copi o'ch ffurflen gais er mwyn llunio rhestr fer o ymgeiswyr i gyfweld â nhw.
Gofynnir i chi hefyd ddarparu gwybodaeth am gyfle cyfartal. Nid yw'r wybodaeth hon yn orfodol – os na fyddwch yn ei rhoi, ni fydd hynny'n effeithio ar eich cais. Ni fydd y wybodaeth hon ar gael i unrhyw aelodau eraill o staff y tu allan i'n tîm adnoddau dynol, gan gynnwys rheolwyr recriwtio, ar ffurf a allai ddatgelu pwy ydych. Dim ond er mwyn llunio a monitro ystadegau cyfle cyfartal y caiff y wybodaeth a rowch ei defnyddio.
Caiff gwybodaeth sy'n deillio o'r broses asesu a'r cyfweliad ei dal gan CGA. Os na fyddwch yn cael y swydd dan sylw ar ôl y cyfweliad, efallai y byddwn yn gofyn i chi a hoffech i ni gadw eich manylion yn ein cronfa dalent am 12 mis. Os byddwch yn cytuno, byddem yn cysylltu â chi'n rhagweithiol pe bai unrhyw swyddi gwag eraill sy'n addas yn codi.
Cynnig amodol
Os byddwn yn gwneud cynnig cyflogaeth amodol, byddwn yn gofyn i chi am wybodaeth er mwyn cynnal gwiriadau cyn-cyflogaeth. Rhaid i chi gwblhau'r gwiriadau cyn-cyflogaeth yn llwyddiannus cyn cael cynnig terfynol. Mae'n rhaid i ni gadarnhau manylion personol ein staff a'u hawl i weithio yn y Deyrnas Unedig a chael sicrwydd ynglŷn â'u didwylledd, eu huniondeb a'u dibynadwyedd.
Felly, bydd yn rhaid i chi ddarparu'r canlynol:
- Prawf o'ch manylion personol a'ch cymhwyster uchaf – bydd gofyn i chi ddod â dogfennau gwreiddiol gyda chi i'n swyddfa a byddwn yn gwneud copïau ohonynt.
- Byddwn yn cysylltu â'ch canolwyr yn uniongyrchol, gan ddefnyddio'r manylion a rowch yn eich cais, er mwyn cael geirdaon.
Os byddwn yn gwneud cynnig terfynol, byddwn yn gofyn i chi am y canlynol hefyd:
- Manylion banc – er mwyn prosesu taliadau cyflog.
- Manylion cyswllt mewn argyfwng – fel ein bod yn gwybod â phwy y dylem gysylltu os bydd argyfwng yn y gwaith
- Aelodaeth o gynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil – fel y gallwn anfon holiadur atoch i benderfynu a ydych yn gymwys i ailymuno â'ch cynllun blaenorol.
Defnyddio proseswyr data
Trydydd partïon sy'n darparu agweddau ar ein gwasanaeth recriwtio ar ein rhan yw proseswyr data. Mae gennym gontractau ar waith â'n proseswyr data. Mae hyn yn golygu na allant wneud unrhyw beth â'ch gwybodaeth bersonol oni bai ein bod wedi gofyn iddynt wneud hynny. Ni fyddant yn rhannu eich gwybodaeth bersonol ag unrhyw sefydliad heblaw amdanom ni. Byddant yn ei dal yn ddiogel ac yn ei chadw am y cyfnod a bennir gennym.
Sage - Os byddwch yn derbyn cynnig terfynol gennym, caiff rhai o'ch cofnodion personél eu cadw ar Sage, sef system cofnodion adnoddau dynol a ddefnyddir yn fewnol. Dyma ddolen i'w Hysbysiad Preifatrwydd: https://www.sage.com/en-gb/legal/privacy-and-cookies/
MyCSP - Os byddwch yn derbyn cynnig terfynol gennym, caiff rhai o'ch manylion eu trosglwyddo i MyCSP, sef gweinyddwyr Cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil, y mae CGA yn aelod ohono. Cewch eich cofrestru'n awtomatig ar y cynllun pensiwn a chaiff eich enw, eich dyddiad geni, eich rhif Yswiriant Gwladol a'ch cyflog eu trosglwyddo i MyCSP. Ni chaiff eich manylion banc eu trosglwyddo i MyCSP ar yr adeg hon.
Am ba hyd y caiff y wybodaeth ei chadw?
Os byddwch yn llwyddiannus, byddwn yn cadw'r wybodaeth a rowch yn ystod y broses gwneud cais fel rhan o'ch ffeil cyflogai drwy gydol eich cyflogaeth ac am chwe blynedd ar ôl i'ch cyflogaeth ddod i ben.
Os byddwch yn aflwyddiannus ar unrhyw gam yn ystod y broses recriwtio a dethol, caiff y wybodaeth sydd wedi cael ei rhoi, neu sydd wedi cael ei chreu fel rhan o'r broses hyd at y pwynt hwnnw (fel nodiadau cyfweld), ei chadw am chwe mis ar ôl diwedd yr ymgyrch recriwtio.
Caiff gwybodaeth ddienw sy'n rhoi manylion i ni am effeithiolrwydd ymgyrchoedd recriwtio, er enghraifft, ym mhle y gwelodd yr ymgeiswyr yr hysbyseb swydd a gwybodaeth cyfle cyfartal at ddibenion monitro, ei chadw am chwe blynedd ar ôl diwedd yr ymgyrch.
Cywirdeb eich gwybodaeth
Byddwn yn ceisio sicrhau bod gwybodaeth amdanoch yn gywir ac yn gyfredol pan fyddwn yn ei chasglu neu'n ei defnyddio. Gallwch ein helpu i wneud hyn drwy roi gwybod i ni am unrhyw newidiadau i'r wybodaeth rydym yn ei dal amdanoch.
Beth yw eich hawliau?
Gallwch ofyn am weld eich gwybodaeth bersonol neu ei chywiro. O dan y gyfraith Diogelu Data (Deddf Diogelu Data 2018 a'r Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) mae gennych hawliau y mae arnom eu hangen er mwyn sicrhau eich bod yn ymwybodol ohono. Mae'r hawliau sydd ar gael hefyd yn dibynnu ar ein rheswm dros brosesu eich gwybodaeth.
- Yr hawl i gael gwybod - mae gwybodaeth am breifatrwydd ar gael trwy rybudd preifatrwydd CGA;
- Hawl mynediad - mae gennych hawl i weld yr wybodaeth bersonol yr ydym yn ei chadw arnoch chi a rhywfaint o ddata atodol arall. Cyfeirir at yr hawliau hyn fel 'mynediad pwnc' yn gyffredinol. Bydd angen prawf adnabod arnom cyn datgelu unrhyw wybodaeth. Byddwn yn ymateb i'ch cais heb oedi gormodol ac ar y diweddaraf o fewn mis ar ôl ei dderbyn. Mae yna eithriadau a allai olygu na fydd angen i ni gydymffurfio â'ch cais, neu ran ohoni.
- Yr hawl i unioni - mae gennych hawl i ofyn i ni gywiro'r wybodaeth rydych chi'n meddwl sy'n anghywir. Mae gennych hefyd yr hawl i ofyn i ni gwblhau gwybodaeth rydych chi'n meddwl sy'n anghyflawn.
- Hawl i ddileu - mae gennych yr hawl (mewn rhai amgylchiadau penodol) i 'gael eich dileu'
- Yr hawl i gyfyngu ar brosesu - mae gennych yr hawl i ofyn i ni gyfyngu prosesu eich gwybodaeth. Mae'r hawl hon yn gyfyngedig lle mae'r prosesu yn seiliedig ar fuddiannau cyfreithlon a / neu at ddibenion ymchwil ac ystadegau
- Yr hawl i wrthwynebu prosesu - mae gennych yr hawl (mewn rhai amgylchiadau penodol) i wrthwynebu prosesu
- Y gallu i symudadwyedd data - yr hawl i ofyn ein bod yn trosglwyddo gwybodaeth amdanoch chi i sefydliad arall. Mae'r hawl hon yn gymwys yn unig os ydym yn prosesu gwybodaeth yn seiliedig ar eich caniatâd, neu o dan gontract ac mae'r prosesu'n awtomataidd.
Cadw gwybodaeth amdanoch
Bydd yr amser yr ydym yn cadw'ch gwybodaeth amdano yn dibynnu ar pam mae angen i ni ei brosesu. Rydym yn dal eich gwybodaeth gyhyd ag sydd ei angen i ddarparu gwasanaeth i chi neu gynnal ein busnes yn unol â'n swyddogaethau a'n polisi rheoli cofnodion. Byddwn yn ei gadw'n unol â'n hamserlen gadw, gofynion deddfwriaethol a chanllawiau arfer gorau nes nad oes angen y data mwyach at y diben y cafodd ei gasglu. Yn dilyn hyn, bydd y wybodaeth yn cael ei dinistrio a'i gwaredu mewn modd diogel. Os yw'n ofynnol i ni gadw'r wybodaeth at ddibenion ystadegol byddwn yn ei anhysbysu neu'n ei ffugenw lle bo hynny'n bosibl. Mwy o wybodaeth ar gael .
Strategaeth rheoli gwybodaeth
Ein nod wrth reoli'r wybodaeth rydym yn ei dal yw taro'r cydbwysedd cywir rhwng sicrhau bod gwybodaeth ar gael yn haws i'r cyhoedd a diogelu cyfrinachedd unigolion a sicrhau bod mesurau diogelu digonol ar waith.
Mae ein polisïau rheoli gwybodaeth yn cwmpasu'r canlynol:
- sut rydym yn ymateb i geisiadau gwrthrych am wybodaeth a cheisiadau Rhyddid Gwybodaeth
- sut rydym yn diogelu'r wybodaeth a ddelir gennym
- sut rydym yn sicrhau bod y wybodaeth a gaiff ei chreu, ei chasglu a'i storio yn gymesur â'r angen, ac na chaiff ei chadw am fwy o amser nag sydd ei angen
Eich hawl i gwyno
Os hoffech wneud cwyn ynglŷn â'r ffordd rydym wedi ymdrin â'ch data personol, gallwch gysylltu â ni a byddwn yn ymchwilio i'r mater. Os na fyddwch yn fodlon ar ein hymateb, neu os byddwch o'r farn nad ydym yn prosesu eich data personol yn unol â'r gyfraith, gallwch wneud cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) https://ico.org.uk/global/contact-us/.
Rhyddid gwybodaeth
Mae'r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth:
- yn eich galluogi i weld y wybodaeth a ddelir gennym;
- yn ei gwneud yn ofynnol i ni gael cynllun cyhoeddi.
Mae rhywfaint o wybodaeth ar gael drwy ein cynllun cyhoeddi, sydd i'w weld yma. Os nad yw'r wybodaeth ar gael drwy ein cynllun cyhoeddi, mae'n rhaid gwneud cais Rhyddid Gwybodaeth fel a ganlyn:
- gwneud cais ysgrifenedig i'r Rheolwr Casglu a Chofnodi Data;
- nodi'n glir y wybodaeth neu'r dogfennau yr hoffech eu cael, gan roi cymaint o fanylion â phosibl;
- rhoi eich enw a'ch cyfeiriad;
- nodi sut yr hoffech i ni anfon y wybodaeth atoch, er enghraifft, drwy'r post, drwy ffacs neu drwy e-bost.
Os ydych yn anfodlon â'r ffordd yr ymdriniwyd â'ch cais a/neu ein hymateb, mae gennych hawl i ofyn am adolygiad mewnol neu i wneud cwyn.
Gellir gwneud cwynion drwy broses adborth a chwynion CGA https://www.ewc.wales/site/index.php/cy/amdanom-ni/adborth-a-chwynion.html
Os ydych yn anfodlon â'r ffordd yr ymdriniwyd â'ch cais am wybodaeth a'ch bod wedi methu â chael boddhad drwy drafod â'r swyddog sy'n delio â'r mater, gallwch ofyn am adolygiad mewnol. Dylid cyflwyno ceisiadau am adolygiad mewnol o fewn 40 diwrnod gwaith i ddyddiad derbyn ein hymateb cychwynnol. Ysgirfennwch at Elizabeth Brimble, Cyfarwyddwr cymwysterau, cofrestru ac priodoldeb i ymarfer, Cyngor y Gweithlu Addysg, 9 fed Llawr, Eastgate House, 35-43 Heol Casnewydd, Caerdydd, CF24 0AB.
Bydd eich llythyr apêl yn cael ei gydnabod o fewn pum diwrnod gwaith ac ymdrinnir ag ef o fewn 20 diwrnod gwaith, gan roi manylion llawn am ganlyniad yr adolygiad.
Os nad ydych yn fodlon â chanlyniad yr adolygiad mewnol/gyda'n hymateb gallwch apelio/cael hawl i gwyno wrth Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth o dan adran 50 o Ddeddf Rhyddid gwybodaeth. Dylai ceisiadau am adolygiad gan yr ICO gael eu gwneud yn ysgrifenedig I Information Commissioner's Office, Wycliffe House, Water Lane, Wilmslow, SK9 5AF.
Sut i gysylltu â ni
CGA yw’r rheolydd data ar gyfer y data personol yr ydym yn prosesu. Os hoffech drafod unrhyw beth yn ein polisi preifatrwydd, cael rhagor o wybodaeth am eich hawliau neu gael copi o'r wybodaeth rydym yn ei dal amdanoch, cysylltwch â Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld..
Am gyswllt cyffredinol defnyddiwch https://www.ewc.wales/site/index.php/cy/cysylltwch-a-ni.html.