Beth yw’r Pasbort Dysgu Proffesiynol?
Mae’r Pasbort Dysgu Proffesiynol (PDP) yn adnodd ar-lein hyblyg a chwbl ddwyieithog sydd ar gael i holl gofrestreion Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA).
Mae eich PDP yn llawn dop o nodweddion a fwriadwyd i’ch cynorthwyo i gofnodi’ch dysgu, myfyrio arno, ei rannu a’i gynllunio, gyda’r nod yn y pen draw o wella’ch ymarfer. Mae pob un ohonom ni’n dysgu mewn ffyrdd gwahanol a lluniwyd y PDP i fodloni amrywiaeth eang o anghenion.
Chi sy’n berchen ar eich PDP: mae’n gyfrinachol ac yn gludadwy. Cyn belled ag y byddwch wedi cofrestru â CGA, gallwch fynd at unrhyw gynnwys rydych chi wedi’i greu yn eich PDP.
Sut gallwch chi fynd at eich PDP?
Mae eich PDP ar gael drwy eich cyfrif ‘Fy CGA’ ar-lein. Mae ein canllaw byr yn amlinellu sut i greu eich cyfrif ar-lein a mynd ato. Os cewch unrhyw anawsterau wrth fynd at eich PDP, cysylltwch â ni drwy Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld. neu ffoniwch 02920 460099.
Sut gall y PDP wella eich ymarfer?
Cliciwch ar y categori cofrestru isod sy’n berthnasol i chi i gael syniadau am sut gall y PDP gefnogi’ch datblygiad proffesiynol ac i weld sut mae pobl eraill yn defnyddio’r PDP.
O ddiddordeb? Trefnwch sesiwn arddangos, yn rhad ac am ddim!
Rydym yn fodlon ymweld â’ch sefydliad i arddangos y PDP i’ch staff, a dangos sut gallwch chi, eich cydweithwyr a’r sefydliad elwa o’i swyddogaethau a’i amlochredd. Os hoffech drefnu sesiwn arddangos, llenwch ein ffurflen archebu ar-lein neu anfonwch e-bost at Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld..
Llyfrgell ymchwil
Os yw ymarfer seiliedig ar dystiolaeth o ddiddordeb i chi, gallwch gael at EBSCO drwy eich PDP. Dyma gronfa ddata fwyaf y byd o ymchwil testun llawn ar gyfer gweithwyr addysg proffesiynol ac mae’n cwmpasu pob lefel addysg ac arbenigedd.
Gall cofrestreion CGA gael at becyn Education Source a chasgliad eLyfrau addysg EBSCO. Mae’r ddau adnodd yn tyfu’n gyson ac yn cynnwys:
- Bron i 2,000 o gyfnodolion testun llawn
- Crynodebau ar gyfer dros 3,500 o gyfnodolion
- Dros 530 o lyfrau testun llawn
- Dros 2,500 o bapurau cynhadledd testun llawn, sy’n gysylltiedig ag addysg
- Cyfeiriadau ar gyfer dros 6 miliwn o erthyglau, gan gynnwys adolygiadau o lyfrau
I gael at EBSCO yn eich PDP, cliciwch ar yr opsiwn ‘help ac adnoddau’ ar ddangosfwrdd eich PDP.
Mae cyfres o ganllawiau ar-lein ar gael i’ch cynorthwyo i ddechrau arni a defnyddio’ch cyfrif EBSCO.