Croeso i Flog CGA – 'Sôn'.

Mae'r blog yn gartref i ystod o sylwadau ynghylch materion addysg a materion proffesiynol, yr ydym yn gobeithio y byddant o ddiddordeb i chi. Barn yr awduron eu hunain ydyw ym mhob achos.

Os oes gennych unrhyw awgrymiadau neu syniadau ar gyfer 'Sôn', cysylltwch â Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld. 

Sunil PatelFel llawer o blant ifanc heddiw, tyfais i fyny gyda diddordeb mawr mewn pêl-droed a chychwynnais gefnogi Tottenham Hotspur pan oeddwn yn 7 oed wrth dyfu fyny yn Llundain. Un o fy atgofion cynharaf oedd ohonyn nhw’n ennill cwpan yr FA yn erbyn QPR yn 1982, ac yno dechreuodd fy nhaith o fod yn gefnogwr Spurs gydol oes.

Roedd y flwyddyn honno yn un arwyddocaol i mi, nid yn unig gan fy mod wedi symud gyda fy nheulu o Lundain i Gaerdydd, ond oherwydd beth ddigwyddodd i mi yn hwyrach ymlaen yn 1982.

Ar Hydref 30ain 1982, deffrais wedi cynhyrfu gan wybod fy mod i’n mynd i wylio fy ngêm bêl-droed broffesiynol gyntaf gyda fy mrawd hŷn a’i ffrind.

Dwi’n cofio cerdded tuag at y stadiwm gyda’r cefnogwyr eraill, gan deimlo’n nerfus ac wedi cyffroi ar yr un pryd.
Aethom drwy’r turnstiles ac am y brif deras i sefyll gyda chefnogwyr eraill y tîm cartref. Dwi’n cofio pa mor swnllyd oedd yr awyrgylch pan ddaeth y chwaraewyr allan o’r twnnel, a’r cefnogwyr yn canu wrth i’r cyffro cynyddu.

Roedd y 3 ohonom yn sefyll yng nghanol y dorf, i gyd yn cefnogi’r un tîm, yn edrych ymlaen ond dal yn hynod nerfus. Yna, tua 10 munud i mewn i’r hanner cyntaf bu i ni ddechrau teimlo beth oeddem yn tybio oedd diferion o law ar gefnau ein gyddfau. Dim ond wedi i ni droi rownd wnaethom sylweddoli bod grŵp o gefnogwyr yn poeri arnom ni ac yn gweiddi’r gair ‘Paki’ atom ni; doeddwn i erioed wedi clywed y gair yma o’r blaen ond yn anffodus mae’n air rydym wedi gorfod dod i arfer gyda – hyd yn oed nawr yn 2019.

Cododd hyn ofn aruthrol arna i, a bu i mi osgoi gwylio pêl-droed yn fyw tan roeddwn yn fy ugeiniau. Hyd heddiw, dydw i byth yn hollol gyfforddus wrth wylio gêm mewn stadiwm gan ein bod ym mhell iawn o gael gwared ar hiliaeth o’r gêm brydferth.

Er hyn, mae pêl-droed wedi dod a llawer iawn o fwynhad i fy mywyd. Dwi wedi defnyddio hyn, ynghyd â fy mhrofiadau bywyd o ddelio gyda hiliaeth, wrth arwain yr elusen Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth yng Nghymru.

Dwi’n hynod falch o’r gwaith rydym yn ei wneud yng Nghymru a’r gweithgareddau amrywiol rydym yn eu cyflawni, megis darparu gweithdai mewn ysgolion a hyfforddiant i ddarpar athrawon. Rydym hefyd yn cefnogi a chydweithio gyda chlybiau pêl-droed, rygbi a chwaraeon eraill ledled Cymru ac yn lleisio dros grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol ar draws y genedl.

Mae Troseddau Casineb yn parhau i fod ar gynnydd, gyda throseddau ar sail hîl a chrefydd yn cynrychioli 80% o’r holl achosion yng Nghymru. Gan fy mod wedi dioddef o hiliaeth ers roeddwn yn ifanc, medraf ddeall faint gall hyn effeithio ar rywun - yn feddyliol ac yn emosiynol. Mae’n peri cryn bryder bod cynifer o bobl ifanc yn dioddef ac yn wynebu hiliaeth o fewn ein cymunedau. Felly, mae’n hollbwysig fod pob un sydd mewn safle o gyfrifoldeb yn gwneud eu gorau i gefnogi ein pobl ifanc a’r genhedlaeth nesaf.

Dwi’n cofio eistedd wrth fy nesg yn 2008 a derbyn galwad gan riant disgybl 10 oed o’r enw Hannah Roberts, oedd yn dioddef hiliaeth ddifrifol mewn ysgol yng Nghymru. Nid oedd yr ysgol yn gwybod sut i gefnogi Hannah na sut i ddelio gyda’r broblem. O fewn ychydig ddyddiau, ymwelais i a’r cyn-bêl-droediwr, Leroy Rosenior, â’r ysgol. Ar ddiwedd y gweithdy bu i ddau fachgen godi eu dwylo i gyfaddef iddynt ddefnyddio iaith hiliol ac roeddynt am ymddiheuro. Roedd hyn yn foment bwysig i Hannah, oherwydd, yn dilyn y gefnogaeth yma, ni ddioddefodd hithau rhagor o hiliaeth yn yr ysgol. Gwellodd ei pherfformiad academaidd ynghyd â’i hyder a’i hunanwerth. Byswn yn annog pawb sy’n gweithio ym maes addysg i wylio Hannah yn rhannu ei phrofiadau.

Fel elusen sy’n gweithredu mewn amseroedd ansicr (yn economaidd a chymdeithasol) nid ydym mewn sefyllfa i gynorthwyo cymaint o ysgolion a hoffant. Yn ystod y flwyddyn academaidd yma rydym wedi derbyn ein nifer uchaf erioed o geisiadau am gymorth gan ysgolion ond yn anffodus – ac yn rhwystredig – oherwydd diffyg adnoddau nid yw’n bosib i ni gefnogi pob un.

Gyda hyn mewn golwg, rydym ar hyn o bryd yn annog athrawon a staff cynorthwyol yng Nghymru i gwblhau'r arolwg hwn hwn. Gobeithiwn bydd nifer fawr yn ei gwblhau. Byddwn yn defnyddio’r canlyniadau i wella’r gwaith a’r cymorth gallwn gynnig i ysgolion ac i brofi bod gyda’n gilydd gallwn Ddangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth.

Sunil Patel

Sunil Patel yw Rheolwr Ymgyrch Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth (Cymru) – yr elusen gwrth-hiliaeth flaenllaw yng Nghymru.