Ymchwiliodd yr astudiaeth i’r rhesymau dros y gostyngiad diweddar yn lefel sgiliau llythrennedd plant adeg dechrau’r ysgol ac effaith hyn ar allu plant i gaffael ffoneg wrth iddynt symud ymlaen i flwyddyn 1.
Roedd llawer o ymchwilwyr yn cydnabod dylanwad ymyriad cynnar mewn plant cyn oed ysgol o ran gwella’r gallu i gaffael ffoneg a lleferydd. Methodd y ddamcaniaeth â darparu unrhyw ddatblygiadau pellach i blant yn yr ystodau oed hŷn. O ganlyniad, cynlluniwyd ymyriad er mwyn gwella’r gallu i gaffael ffoneg i blant yn nosbarth 1.
Y dulliau a fabwysiadwyd i ymholi iddynt oedd dadansoddi testun, llais y disgybl, a dadansoddi deilliannau a sgorau darllen safonedig dysgwyr yn ystadegol. Mesurwyd y rhain i gyd cyn ac ar ôl yr ymyriad er mwyn mesur lefelau gwelliant.
Dangosodd y canlyniadau, o’u cymryd yn gyfannol, welliannau bach ond sylweddol yn agweddau’r dysgwyr at ffoneg a darllen. Nododd y dysgwyr effaith gadarnhaol a chydnabod gwelliant ynddyn nhw eu hunain. Ar y cyfan, roedd yr ymyriad yn llwyddiannus gyda nifer fach o rwystrau.
Mae angen i addysgwyr proffesiynol fod yn ymwybodol o’r effeithiau cadarnhaol y gall ymchwil ac ymholi eu cael yn eu hystafelloedd dosbarth. Mae’r ymholiad hwn yn ategu’r safbwyntiau mai ymchwil a gaiff ei chynnal gan ymarferwyr eu hunain gyda’r canfyddiadau’n cael eu lledaenu, a gaiff yr effaith fwyaf gan greu sail wybodaeth y gellir ei rhannu ar draws y proffesiwn addysgu.
© Jennifer Williams Ionawr 2016