Ffocws yr ymholiad hwn a’m nod cyffredinol oedd gwella gallu dysgwyr i resymu’n rhifiadol yn fy ysgol. Roeddwn yn bwriadu gwneud hyn drwy ganolbwyntio’n benodol ar ddatblygu addysgu rhesymu rhifiadol ar draws y cwricwlwm, gan ddarparu gwell cyfleoedd i ddysgwyr ddatblygu eu sgiliau. Y bwriad oedd y byddwn yn gweld cynnydd ym mherfformiad grŵp o ddisgyblion o allu uchel ym Mlwyddyn 4 a oedd yn tangyflawni (roedd eu canlyniadau yn y Profion Cenedlaethol yn is na’r disgwyl), a hynny drwy wella’r ffordd o addysgu rhesymu rhifiadol. Byddai canlyniadau’r prawf hwn yn rhoi dealltwriaeth generig i mi o ansawdd ac effeithiolrwydd rhai o’r adnoddau a’r strategaethau ymyrryd a gâi eu defnyddio.
Roedd rhesymu rhifiadol yn flaenoriaeth nid yn unig i’r ysgol ond ar draws Cymru. Yn dilyn canlyniadau gwael Cymru yn y profion PISA yn 2009, cyflwynwyd y fframwaith Llythrennedd a Rhifedd newydd, ac mae rhesymu wedi troi’n ffocws cenedlaethol. Fodd bynnag, mae Estyn o’r farn bod angen mynd i’r afael â’r mater o hyd ar draws llawer o system addysg Cymru, gan ddweud ‘Nad yw medrau rhesymu rhifiadol disgyblion yn ddigon cadarn o hyd. Mae gormod o ddisgyblion yn anghyfarwydd â gweithdrefnau datrys problemau.” (Estyn 2014, tud. 3). Nod yr Ymchwiliad hwn yw adnabod a phrofi dulliau o wella gallu dysgwyr i resymu’n rhifiadol.
© Jack Ellis Crompton Ionawr 2016